Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Mai 2020
Amser:
12.30 -
13.59
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Bethan Garwood Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes bod y llywodraeth yn bwriadu cyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatau i ddadl ar 'Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: dal i drafod' gael ei chynnal ddydd Mercher. Er mwyn gwneud hynny, bydd y datganiadau gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cynmru yn cael eu cyfyngu i 45 munud, a datganiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gael ei dynnu yn ôl.
Mynegodd y Rheolwyr Busnes eu siom na fydd datganiad llafar bellach gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a chytunodd y Trefnydd i gyfleu hyn i'r Gweinidog.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r amser terfynol ar gyfer cyflwyno gwelliannau i'r cynnig fydd 6.00pm dydd Mawrth, ac y bydd yn dethol gwelliannau ar sail annog cynnal busnes y cyfarfod llawn mewn cyd-destun rhithwir yn drefnus. Roedd, felly, yn annog grwpiau i ystyried nifer y gwelliannau y byddant yn eu cyflwyno.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd, yn hytrach nag ymyriadau, cyn i'r Prif Weindog ymateb i'r ddadl, yn cymryd cyfraniadau o yn funud gan Aelodau a fydd am ymateb i rywbeth a ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau a oedd eisoes wedi siarad. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu nodyn i'r Aelodau yn esbonio hyn.
Grwpio rheoliadau
Gofynnodd Darren Millar i'r ddwy set o reoliadau Covid-19 gael eu grwpio i'w trafod gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân, ac felly caiff y cynnig i grwpio ei newid yn unol â hynny.
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amser dechrau arfaethedig o 11.00am ar gyfer cyfarfod 3 Mehefin.
Cytunodd y Pwyllgor i barhau i amserlennu Cwestiynau Amserol am y tair wythnos nesaf.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynyddu nifer yr Aelodau a ganiateir mewn Cyfarfod Llawn rhithwir i hyd at y 60 llawn o'r wythnos ar ôl hanner tymor. Tynnodd y Llywydd sylw at yr angen i Reolwyr Busnes barhau i hysbysu swyddogion ymlaen llawn o ran pa Aelodau fydd yn bresennol yn y cyfarfod.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i barhau i ddefnyddio'r system bleidleisio wedi'i phwysoli, ac i rannu'r cyfarfod yn sesiynau bore a phrynhawn os bydd cynnydd sylweddol mewn busnes. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddant yn gwneud penderfyniad yn wythnosol ar amser dechrau'r Cyfarfod Llawn.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ei bod yn bwysig arwain drwy esiampl a dilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol tan y bydd y canllawiau hynny'n newid. Cytunwyd i ddychwelyd at faterion yn ymwneud â chyfarfodydd ffisegol neu 'hybrid' ar ôl unrhyw newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru yn unig.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu un awr ychwanegol yr wythnos o fusnes nad yw'n fusnes y llywodraeth, gan gychwyn o'r wythnos ar ôl hanner tymor, ac amserlennu un ddadl yr wythnos am y tair wythnos nesaf, gan wrthblaid. Nododd y Rheolwyr Busnes mai'r ddadl nesaf, o dan yr amserlen a oedd yn cael ei dilyn cyn atal busnes arferol dros dro, fyddai dadl Plaid Brexit, ond penderfynodd y Pwyllgor amserlennu'r tair dadl nesaf yn ôl trefn maint y grwpiau, a dilyn y gymhareb arferol wedi hynny. Gwrthwynebodd Caroline Jones y penderfyniad hwn. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai angen i'r dadleuon fod yn gysylltieidig â materion Cofid-19.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn awgrymu sefydlu pwyllgor penodol ar gyfer Covid-19. Cafwyd barn wahanol ynghylch buddioldeb y cynnig, a gofynnodd y Pwyllgor i'r ysgrifenyddiaeth am bapur cwmpasu ar y broses o sefydlu pwyllgor o'r fath.
Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Cyllid i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cyflwyno adroddiad ddydd Iau 2 Gorffennaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil Amgylchedd i 2 Gorffennaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil Masnach i 2 Gorffennaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar derfyn amser Cyfnod 2 o 9 Hydref 2020, ac y dylai'r cyfnod o gyflwyno gwelliannau ailagor yn ystod wythnos olaf toriad yr haf fel y cynigiodd y pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a chytunodd mewn egwyddor i'w gais am slot darlledu wythnosol. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i swyddogion ymchwilio a fyddai'n bosibl a sut y byddai'n bosibl darparu hyn, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.